Cyflwyniad i Explorify
Wedi ei ddatblygu gan Wellcome Trust…
Cyflwyniad i Explorify
Mae Exporify yn gyfres o weithgareddau digidol gwych am ddim er mwyn cefnogi dysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd. Mae Explorify yn gysylltiedig gyda’r Maes Llafur, yn ennyn diddordeb a chwilfrydedd disgyblion, yn ffordd o ddatblygu eu sgiliau meddwl gwyddonol ac yn adnodd hawdd ei ddefnyddio.
Mae’r rhaglen yn ymwneud â 3 cysyniad y bydd athrawon wrth eu bodd gyda nhw!
Dewis a mynd ati
Y gwaith wedi ei gwblhau ichi gyda gweithgareddau hawdd eu defnyddio gyda dim ond mymryn o waith paratoi – yr oll sydd angen ichi ei wneud ydy dewis!
Y Waw-ffactor
Mae’r gweithgareddau yn ymwneud â lluniau a fideos creadigol o safon gennym ni, y BBC, yr Amgueddfa Wyddoniaeth a mwy!
Wedi’u rhoi ar brawf ac arbrawf
Cysyniadau sy’n berthnasol i’r Maes Llafur ac wedi eu llunio a’u cymeradwyo gan athrawon ac arbenigwyr y byd addysg.
Dewch draw i sesiwn datblygu proffesiynol am ddim yn
- Ty Menai, Parc Menai ar brynhawn 13 Mawrth 2018
- Techniquest Glyndwr ar brynhawn 14 Mawrth 2018 i fanteisio ar y canlynol:
- Dysgu mwy am Explorify
- Dysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar Explorify yn eich ystafell ddosbarth.
- Rhoi cynnig ar rai o strategaethau Explorify.
Grant cyflenwi o £100 ar gael i’r rheiny sy’n mynychu.
Ymunwch gyda ni am ginio o 12.30yp
Sesiwn Datblygu / Ymgyfarwyddo 1.30 – 3.30yp
I wybod mwy am Explorify – https://explorify.wellcome.ac.uk/
Mae hwn yn gyfle gwych i gael blas ar Explorify ac i chi fedru dychwelyd i’r dosbarth yn teimlo’n frwdfrydig, yn gyffrous ac yn hyderus i fynd ati i ddefnyddio’r gweithgareddau!
I gadw lle – anfonwch e-bost at info@tqg.org.uk yn nodi pa sesiwn hoffech chi gofrestru arno.