Cyfarfodydd Rhwydwaith Llythrennedd a Rhifedd Cynradd
Diben y cyfarfod Rhwydwaith Llythrennedd/Rhifedd hanner diwrnod hwn yw dod ag Arweinwyr Llythrennedd/Rhifedd ynghyd mewn cyfarfod anffurfiol i rannu, trafod ac archwilio’r syniadau diweddaraf ym maes datblygu llythrennedd a rhifedd yn ein hysgolion cynradd. Hwn fydd y cyfarfod cyntaf o ddau yn ystod y flwyddyn ysgol hon. Helen Bowen fydd y siaradwr gwadd, fydd yn gwneud cyflwyniad ar ddatblygu Llafaredd ar draws y cwricwlwm ac, yn benodol, defnyddio Llafaredd i ddatblygu mathemateg ac ymresymu rhifyddol.
Bydd y cyfarfodydd yn ddwyieithog, ond bydd Helen yn cyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg.