Datblygu creadigrwydd drwy addysg awyr agored [Cymorthyddion Dysgu – Cymraeg]
Addas ar gyfer: Cymorthyddion y Cyfnod Sylfaen (gweithdy hanner diwrnod)
- Gweithdy hanner diwrnod i gymorthyddion y Cyfnod Sylfaen i rannu syniadau am ffyrdd o ddatblygu sgiliau creadigol a sgiliau allweddol disgyblion o fewn yr ardal allanol.
Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar y canlynol:
- Arweiniad a syniadau ar sut i ddatblygu sgiliau creadigol disgyblion ar draws yr holl feysydd dysgu o fewn yr awyr agored.
- Annog disgyblion i ddefnyddio eu huwch sgiliau meddwl gan ddatblygu’n ddysgwyr creadigol, annibynnol a beirniadol.
- Hyrwyddo lles a datblygiad corfforol disgyblion drwy weithgareddau awyr agored.
- Deall rôl yr oedolyn wrth hwyluso a chefnogi dysgu effeithiol yn yr awyr agored.
- Cymorthyddion yn cydweithio ar dasg grŵp/unigol i rannu gyda phawb sy’n bresennol.
Recent Comments