CaBan yw ymateb y rhanbarth i ‘Addysgu Athrawon Yfory: Opsiynau ar gyfer Dyfodol Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru ‘ (2015). Ei nod yw cydweithio ag ysgolion rhanbarthol a GwE i:
- gryfhau’r ddarpariaeth addysg gychwynnol i athrawon (AGA)
- datblygu gweithlu cynyddol broffesiynol
Mae’n bartneriaeth rhwng pum partner cyfartal: amrywiaeth eang o ysgolion arweiniol a rhwydwaith; Prifysgol Bangor, Prifysgol Caer; GwE a CIEREI. Mae’r bartneriaeth wedi’i hachredu’n llwyddiannus gan CGA i gynnig:
- TAR Cynradd
- TAR Uwchradd
- BA Cynradd
Mae gwaith CaBan yn rhan annatod o’r daith diwygio addysg a amlinellir yn ‘Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol ‘. Bydd yn rhoi cyfleoedd i ysgolion partner:
- gymryd rôl arweiniol yn y gwaith o ddatblygu gweithlu cynyddol broffesiynol
- cefnogi gwella ysgolion drwy weithio ar y cyd a datblygu Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu
- datblygu gallu ymchwil a chefnogi datblygu addysgeg o fewn yr ysgol trwy gysylltiadau â sefydliadau addysg uwch
- dyfnhau dealltwriaeth o’r Safonau Proffesiynol Newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
- datblygu a chryfhau ymhellach sgiliau mentora a hyfforddi