Polisïau AD Rhanbarthol Newydd ar gyfer Ysgolion
Mae polisïau gweithdrefnau newydd a ddatblygwyd yn rhanbarthol wedi’u lansio y tymor hwn. Y rhain bellach yw’r polisïau model yr argymhellir i bob ysgol yng ngogledd Cymru eu mabwysiadu.
Mae’r polisïau newydd yn rhoi sylw i Ddisgyblaeth, Urddas yn y Gweithle a Chwynion, ac fe’u datblygwyd gan Rwydwaith AD Addysg y chwe Awdurdod mewn partneriaeth efo’r undebau llafur cydnabyddedig ar lefel ranbarthol. Datblygwyd y rhain i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r arfer orau ddiweddaraf, canllawiau ACAS, deddfwriaeth gyfredol ar gyflogaeth a rheoliadau staffio a Llywodraeth Cymru, lle bo’r rhain yn berthnasol. Oherwydd y dull newydd o ymgynghori a chytuno ar lefel ranbarthol, gall Ysgolion eu mabwysiadu yn rhwydd i’r dyfodol.
Mae’r rhwydwaith AD Addysg yn dal i weithio gyda’r Undebau Llafur Rhanbarthol ar adolygu polisïau AD eraill. Manylion pellach i ddilyn pan fyddant yn cael eu lansio.
Cysylltwch ag adran AD eich awdurdod i gael rhagor o wybodaeth…..
Gweler y polisïau isod: