Arweinwyr mathemateg: Beth ydych chi eisiau? Beth sydd angen arnochi chi?
Er mwyn rhoi gwybod i Rwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg am waith arweinyddiaeth fathemateg, rydym yn gofyn i bob arweinydd mathemateg lenwi holiadur byr.
Un o amcanion y Rhwydwaith Mathemateg yw datblygu gallu arwain mathemateg trwy weithio gydag ymarferwyr ledled Cymru. Er mwyn gwneud hynny, mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio gydag ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth dda o’r hyn a fyddai’n fuddiol iddynt ddatblygu yn eu rolau arweinyddiaeth mathemateg bresennol neu’r rhai y maent yn anelu atynt.
Un o’r ffyrdd yr ydym wedi dechrau gwneud hyn yw trwy ein rhaglen hyfforddi cyfoedion arweiniol a sefydlwyd yn ddiweddar.
I ategu’r wybodaeth o hyn, rydym yn gofyn i bob arweinydd mathemateg gwblhau’r holiadur byr hwn.
Bydd canlyniadau’r gweithgareddau hyn yn llywio ein gwaith ar arweinyddiaeth.
https://hwb.gov.wales/nnem/news/article/b1ca345b-8cd7-4337-97b9-04792902a4d6